top of page
dwynwen.png

DWYNWEN

Nawdd Sant cariadon Cymru

 

Roedd Dwynwen yn ferch hardd i un o frenhinoedd Cymru yn y 5ed ganrif. Pan gafodd ei gwahardd rhag priodi’r dyn yr oedd yn ei garu, rhedodd i ffwrdd a daeth yn lleian. Wedi hynny gwnaeth ymroi gweddill ei hoes i helpu cariadon eraill i ddod o hyd i hapusrwydd. Daeth Dwynwen yn nawddsant cariadon Cymru. Mae ei bywyd yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar Ddiwrnod Santes Dwynwen, sef y 25ain o Ionawr.

 

Pan oedd hi’n ferch ifanc, disgynnodd mewn cariad gyda Maelon, mab i frenin cyfagos a chynlluniodd y ddau i dreulio gweddill eu bywydau â’i gilydd. Aeth Maelon i ofyn i’r brenin am law Dwynwen mewn priodas, ond gwrthod wnaeth ei thad, gan ddweud ei fod eisoes wedi trefnu cymar addas iddi. Roedd Maelon yn gandryll, wedi dial ar Dwynwen yn ei ddicter, gadawodd y llys mewn cynddaredd. Rhedodd Dwynwen i ffwrdd, taflodd ei hun ar y llawr gan grio ei hun i gysgu. Tra oedd yn cysgu, breuddwydiodd bod ysbryd wedi dod ati ac wedi dweud wrthi na fyddai Maelon yn ei phoeni eto oherwydd ei fod wedi cael ei droi’n ddarn o rew. Yna dywedodd yr ysbryd wrthi ei bod yn cael tri dymuniad. Dywedodd Dwynwen annwyl wrth yr ysbryd mai ei dymuniad cyntaf oedd i gorff Maelon gael ei ddadmer, ei hail oedd i wir gariad gael ei warchod bob amser yn ei henw hi a’r trydydd oedd na fyddai hi byth yn syrthio mewn cariad eto, nac yn priodi. Daeth ei dymuniadau yn wir.

​

Gadawodd Dwynwen ei chartref i atal ei thad rhag ei gorfodi i briodi oherwydd pŵer neu drachwant a daeth yn lleian gan deithio ledled Cymru yn sefydlu eglwysi ac yn gweddïo dros y rhai a oedd yn llawn gofid oherwydd cariad. Daeth i derfyn ei siwrnai ar ynys Llanddwyn, oddi ar arfordir Ynys Môn, ble mae adfail eglwys Dwynwen i’w weld heddiw. Ar ôl marwolaeth Dwynwen, cysegrwyd ffynnon iddi. Mae rhai yn credu bod y ffynnon hon yn gartref i bysgod sanctaidd a bod eu symudiad yn darogan y dyfodol i gariadon. Mae eraill yn dweud bod y ffynnon yn berwi weithiau ac y bydd y rhai sy’n gweld hynny’n cael lwc dda yn eu bywyd carwriaethol.

bottom of page