top of page

Mona enw. (Lladin) yr enw a roddodd y Rhufeiniaid ar Ynys Môn – a dyma lle ‘ryda ni...... Mae’r ynys yn cael ei hadnabod fel Môn, Mam Cymru, am ei bod wedi cynnal Cymru diolch i’w thir ffrwythlon..... felly pam ddim ychwanegu cwrw da i’r fasged siopa?

 

Tra bod yr enw hynafol yn siapio ein hunaniaeth a bod y Gymraeg a’n diwylliant yn ein dylanwadu, mae ein cwrw yn cymryd ei ysbrydoliaeth o bedwar ban y byd, ac anelwn ninnau i rannu ychydig o Fôn gyda phawb arall.

 

Sefydlwyd ein bragdy crefft yn 2018 gan saith ffrind oedd yn rhannu diddordeb, ymysg pethau eraill, mewn cwrw da.... Mae ein cwrw yn cael ei gynhyrchu â llaw fesul dipyn, sy’n sicrhau ansawdd a chysondeb, a chredwn yn gryf mewn bod yn gynaliadwy.

 

Byddwch yn rhan o stori Mona – dilynwch ni, mwynhewch ni a rhannwch ni!

ein stori

IMG_1512.jpg
IMG_2672.jpg
IMG_2670.jpg
Screen Shot 2020-07-21 at 16.38.04.png
bottom of page