top of page
eilian.png

EILIAN

Am i Caswallon Llawhir, Tywysog Gwynedd ddwyn ei wartheg, bwrodd Sant Eilian y tywysog yn ddall. Petai’n adfer ei olwg, addewodd y tywysog freintio Sant Eilian gyda’r hynny o dir y gallai carw ei redeg cyn cael ei ddal gan gŵn. Rhyddhawyd y carw, â’r cwn hela i’w ymlid. Gyda'r cŵn bron wrth ei gynffon, neidiodd y carw dros rigol lydan yn y graig gan ennill tir helaeth i Sant Eilian. Hyd heddiw, enw’r rhigol ger Amlwch yw Llam Carw.

bottom of page