top of page
cask ale.png

PABO

Yn ôl traddodiad, sefydlodd Pabo eglwys yn Ynys Môn wedi iddo ffoi yma o’r Hen Ogledd lle y bu’n ymladd gyda’r Pictiaid. Daw’r awgrym o’i frenhiniaeth o garreg fedd y tu mewn i’r eglwys sy’n darlunio dyn gyda barf yn gwisgo coron ac yn gafael mewn teyrnwialen. Ceir ar y garreg fedd y geiriau – Pabo Post Prydain. Mewn geiriau eraill – Pabo, Cynhaliwr Prydain.

bottom of page