top of page

SEIRIOL WYN

Roedd y ddau sant, Cybi a Seiriol yn byw ar ddwy ynys oddi ar arfordir Ynys Môn, sef Ynys Cybi ac Ynys Seiriol.  Roedden nhw’n gyfeillion ac mi fydden nhw’n cwrdd â’i gilydd ger ffynnon Clorach, rhyw hanner ffordd rhwng y ddwy ynys. 

​

Byddai’r haul yn disgleirio ar wyneb Cybi wrth iddo gerdded tua’r dwyrain yn y bore i gyfarfod ei gyfaill ac eto wedyn wrth iddo gerdded tua’r gorllewin gyda’r nos.

​

Ar y llaw arall, byddai cefn Seiriol at yr haul yn y bore ac yn y nos.  O ganlyniad roedd gan Cybi liw haul ac roedd ei wyneb yn felyn ond arhosodd wyneb Seiriol yn welw.  A dyna sut y cawson nhw’r enwau Seiriol Wyn a Chybi Felyn.

seiriol.png
bottom of page